Cyfle swydd

Mae ein prosiect plannu eglwysi, Cant i Gymru yn mynd i mewn i gyfnod newydd o dwf. Mae’r weledigaeth yn ennill momentwm, mae partneriaethau’n cynyddu, ac mae’r gofynion ar y mudiad yn tyfu. Caiff y fenter ei harwain gan Arweinydd Tîm sy’n gweithio ochr yn ochr â thîm ehangach, gyda phob aelod yn cario cyfrifoldeb am faes ffocws penodol — Gweddi a’r Genhedlaeth Nesaf, Arfogi a Chefnogi. Mae pob un o’r rhain yn gweithio’n wirfoddol.

Y mae Cant i Gymru bellach yn edrych at apwyntio Pennaeth Gweithrediadau cyflogedig fydd yn gwasanaethu’r tîm cyfan hwn, gan sicrhau bod y seilwaith gweithredol yn ei le er mwyn i bawb allu canolbwyntio ar y gwaith y maent wedi’u galw i’w wneud.

Bydd y Pennaeth Gweithrediadau yn sicrhau bod y mudiad yn symud ymlaen yn hyderus; bod systemau’n gweithio, bod gwaith yn cael ei gyflawni o fewn terfynau amser, a bod cydymffurfiaeth yn cael ei ddiogelu. Bydd deiliad y swydd yn rhyddhau’r Arweinydd Tîm i ganolbwyntio ar y weledigaeth, creu perthynas, ac arweinyddiaeth strategol, ac yn rhoi i’r tîm ehangach y gefnogaeth weithredol sydd ei hangen arnynt i’w galluogi i wneud yr un peth.

Bydd deiliad y swydd yn uwch-swyddog. Mae’n gofyn am rywun sy’n gallu ymdopi â chymhlethdod, ennill ymddiriedaeth yn gyflym, a meithrin systemau cadarn heb golli’r cynhesrwydd perthynol sy’n diffinio’r ffordd rydym yn gweithio.

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, â diddordeb yn y rôl hon, darllenwch y disgrifiad llawn o’r rôl a’r manylion ymgeisio yma. A gweddïwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr Arglwydd yn dod â’r person cywir atom ar gyfer y gwaith hwn. Diolch.